Ddydd Mawrth, 17 Hydref 2017, bydd Canolfan Peniarth yn cyhoeddi llyfr straeon i blant am gymeriad diddorol o’r Gŵyr, Idwal  - y Goeden Gelwydd Golau, gan yr awdures Carol Barratt.

Mae’r straeon i gyd wedi eu gosod yn ardal hardd Penrhyn Gŵyr, lle mae Idwal, yr hen goeden helygen glec, yn adrodd ei straeon i’r anifeiliaid a fyddai’n mynd a dod.  Cafodd Carol Barratt ei hysbrydoli i ysgrifennu’r straeon gan hen goeden dal a oedd yn sefyll wrth ffynnon yng ngwaelod gardd ei chartref ar y Gŵyr.

Dywedodd yr awdures, “Ar foncyff yr hen helygen yn yr ardd, roedd yna gadwyni o frigai a ymdebygai i wyneb hen berson, a chefais fy ysbrydoli i ysgrifennu’r straeon yma i blant am gymeriadau o fyd natur wrth wylio’r holl anifeiliaid a fyddai’n mynd a dod heibio gwaelod yr ardd, bron fel petaent yn galw heibio i wrando a sgwrsio â’r goeden.”

Mae Carol Barratt yn awdures ac yn gerddor profiadol sydd wedi cyhoeddi dros wythdeg o gyhoeddiadau i bobol ifanc, a’r mwyafrif o’r rheiny yn gyhoeddiadau cerddoriaeth.  Mae’n cael ei hystyried yn un o’r prif arweinyddion ar draws y byd ym maes addysg gerddorol.  Dywedodd Mr Gwydion Wynne, “Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gydweithio gyda Carol ar y cyhoeddiad arbennig hwn.  Mae hi’n adnabyddus ar draws y byd o fewn ei maes, ac rydym yn edrych ymlaen i weld sut fydd plant Cymru yn ymateb i straeon yr hen Idwal!”

Mae Idwal wedi ei addasu i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood, ac ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg o siopau llyfrau lleol.  Bydd y llyfr yn cael ei lansio yng nghwmni Mererid a Carol gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Brynymor yn Abertawe, lle bydd cyfle i’r plant glywed rhai o hanesion Idwal, a chael cyfle i fod yn greadigol ei hunain mewn gweithdy creadigol gyda Mererid.